Gwasanaethau
Cartref > Gwasanaethau
Ailweirio Rhannol a Llawn
O ailweirio rhannol mewn byngalo, i ailweirio llawn mewn eiddo masnachol bach, mae pob prosiect wedi'i deilwra i'ch anghenion unigol chi. P'un a yw'n adeilad newydd neu wedi ei ailwampio, bydd cyfoeth gwybodaeth Aled yn tawelu eich meddwl. Mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.
Chwilio am Namau
Gall chwilio am namau gynnwys galwadau brys yn ogystal ag atgyweiriadau ac uwchraddio safonol. Ar ôl yr asesiad cychwynnol ar y safle, byddwch yn derbyn adroddiad a dyfynbris cyn penderfynu a hoffech i'r atgyweiriadau gael eu gwneud. Beth bynnag fo'r prosiect, bydd unrhyw waith trwsio'n cael ei drafod gyda chi cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu, gan sicrhau eich bod yn hapus gyda'r rhannau a'r costau newydd. Mae'r holl waith yn cael ei wneud yn gyflym, gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar eich diwrnod. Mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.
Mân Waith
Mae mân waith yn tueddu i fod yn brosiectau llai a gallant gymryd unrhyw beth o awr i ychydig ddyddiau i’w cwblhau, yn dibynnu ar faint y prosiect neu gyfanswm y tasgau. Yn aml, mae gan y prosiectau hyn ddyddiad cau llai dybryd. Mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.
Pwyntiau Gwefru EV
Mae cerbydau trydan yn boblogaidd oherwydd twf ynni adnewyddadwy. Mae llawer o bobl yn edrych i foderneiddio a gall hyn arwain at osod pwynt gwefru yn eu cartref neu fusnes. Y cam cyntaf yw ymweliad safle gan Aled i asesu lleoliad a digonolrwydd y trydan presennol gan ddilyn gyda dyfynbris ac amserlen ar gyfer y prosiect. Mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.
Tystysgrifau Trydanol
Mae'n ofyniad cyfreithiol i gael tystysgrif diogelwch trydanol landlordiaid dilys ar waith ar gyfer pob eiddo rhent yr ydych chi’n berchen arno. Rhaid adnewyddu'r dystysgrif diogelwch trydanol hon bob pum mlynedd. Fel landlordiaid, eich cyfrifoldeb chi yw trefnu hyn a sicrhau bod unrhyw waith yn cael ei wneud yn ddiogel. Ar ôl pob prosiect mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.
Profion PAT
Mae Profion Dyfeisiau Cludadwy yn bwysig er mwyn cynnal safonau diogelwch cyfarpar trydanol yn eich eiddo. Fel arfer, mae’r gwasanaeth hwn yn gofyn am ymgynghoriad dros y ffôn, ac yna amcangyfrif ar-lein ac ymweliad safle i gwblhau'r gwaith ar y dyddiad penodedig.
Larymau Tân / Larymau Tresmaswyr CCTV
Bydd maint a phwrpas yr eiddo yn penderfynu pa system sy'n addas i'ch anghenion. Yn seiliedig ar ei flynyddoedd o brofiad, bydd Aled yn cynghori, yn cyflenwi (os oes angen) ac yn gosod y cynhyrchion hyn mewn modd effeithlon ac amserol gan sicrhau eich diogelwch fel y brif flaenoriaeth. Mae pob prosiect yn dechrau gydag ymweliad safle ac yna dyfynbris heb ymrwymiad. Ar ôl pob prosiect mae pob cleient yn derbyn tystysgrif i gadw cofnod o'r gwaith proffesiynol a wnaed.