Ardaloedd
Cartref > Ardaloedd
Wedi'i leoli yn Llanrug, mae A.H.Electrical yn cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Dros y blynyddoedd mae Aled wedi cwblhau prosiectau gyda lleoliadau yn amrywio o Flaenau Ffestiniog i Borthaethwy, Bae Trearddur a Llandudno.
Ar ôl eich ymholiad cychwynnol, y cam cyntaf yw ymweliad safle ac yna dyfynbris heb ymrwymiad. Gellir trafod prosiectau llai fel profion PAT dros y ffôn, gan ddilyn gydag amcangyfrif ar-lein ac ymweliad safle i gwblhau'r gwaith ar y dyddiad(au) penodedig. Boddhad cwsmeriaid yw blaenoriaeth Aled felly gallwch deimlo'n hyderus yn ei ddwylo diogel.