Amdanom
Cartref > Amdanom
Mae A.H.Electrical yn fusnes bach wedi'i leoli yn Llanrug, sy'n cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae gan Aled gyfoeth o wybodaeth fel contractwr trydanol dwyieithog ar gyfer eiddo domestig a masnachol yng Ngogledd Cymru. Daw llawer o waith Aled trwy argymhelliad gan ei fod wedi adeiladu enw da iawn iddo ef ei hun. Gallwch weld adolygiadau cwsmeriaid blaenorol yma.
Pan ddaw i waith trydanol, mae angen i chi fod mewn dwylo diogel. Mae Aled yn gontractwr NICEIC cymeradwy, sydd wedi ei yswirio'n llawn gyda blynyddoedd o brofiad. Mae A.H.Electrical yn cwmpasu pob agwedd ar y diwydiant, o chwilio am namau a mân weithiau i ail-weirio llawn a gwaith mawr. Bydd Aled yn cynnig ei arbenigedd yr holl ffordd o'r ymgynghoriad cychwynnol i'r canlyniad gorffenedig.
Gallwch weld rai o brosiectau blaenorol A.H.Electrical yma, o newid llifoleuadau i osod pwyntiau gwefru EV, trwsio socedi diffygiol ac uwchraddio unedau defnyddwyr. Mae pob prosiect yn dechrau gydag ymweliad safle ac yna dyfynbris di-ymrwymiad. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i drafod pethau ymarferol, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i chi pan fydd y prosiect yn cael ei gyflawni. Blaenoriaeth Aled yw cadw lle glân a thaclus wrth gwblhau gwaith i'r safonau uchaf. Darperir tystysgrifau ar ôl i'r holl waith gael ei wneud, e.e. Profi ac Ardystio / Adroddiadau Diogelwch Landlord.
Os oes gennych chi brosiect trydanol, gallwch ymddiried y bydd Aled yn cyrraedd yn brydlon ac na fydd unrhyw ffioedd annisgwyl. Mae ymddiriedaeth a thryloywder yn rhan hanfodol o ethos A.H. Electrical.